Mae cromlin lai o aur melyn yn ategu cromlin fwy o arian sterling gyda manylion morthwylio, pob un â chroesiad ysgubol drosodd, i greu crogdlws gyda symudiad.
Wedi’i hysbrydoli gan batrymau llanw’r Fenai yng Ngogledd Cymru gyda’i dyfroedd chwyrlïol a’i trolifau.
Mae'n dod ar gadwyn 'neidr' arian sterling sydd ar gael mewn dau hyd gwahanol.
Mae'r crogdlws yn cyrraedd wedi'i ddilysnodi, ac wedi'i becynnu'n hyfryd yn anrheg mewn blwch gemwaith brand o ansawdd uchel.
Deunyddiau: Arian sterling ac aur melyn 9ct
Dimensiynau: 15mm x 30mm